Cefnogi Sustrans
Ein gweledigaeth yw byd lle y mae pobl yn dewis teithio mewn ffyrdd sydd o fudd i’w hiechyd a’r amgylchedd. Mae Sustrans yn gyson yn datblygu atebion ymarferol, ond eto’n llawn dychymyg, i heriau trafnidiaeth. Helpwch ni i wneud gwahaniaeth heddiw, newid y bydd eich wyrion a’ch wyresau yn ei werthfawrogi mewn blynyddoedd i ddod.
Rhoi drwy Ddebyd Uniongyrchol
Beth am gefnogi Sustrans heddiw gyda rhodd misol rheolaidd? Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy ddefnyddio ein system ddiogel ar-lein isod neu gallwch lawrlwytho ffurflen i’w llenwi a’i dychwelyd i ni gan ddefnyddio ein cyfeiriad rhadbost. Gallwch hefyd ffonio ein Hadran Cefnogwyr ar 0845 838 0651, gan y gallwn dderbyn cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol dros y ffôn.
Mae rhoi drwy Ddebyd Uniongyrchol yn sicrhau bod gennym ffynhonnell ddibynadwy o incwm i ariannu prosiectau tymor hir a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallwch roi cyn lleied â £3 y mis er mwyn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i genedlaethau’r dyfodol. Beth am wasgu’r botwm Debyd Uniongyrchol nawr.
Gwneud cyfraniad
Os hoffech wneud un cyfraniad yn unig i Sustrans gallwch wneud cyfraniad diogel ar-lein gan ddefnyddio eich cerdyn credyd / cerdyn debyd. Cliciwch ar y botwm Cyfrannu Nawr. Mae mor hawdd â hynny!
Rhodd Cymorth
Cofiwch, os ydych yn drethdalwr yn y DU, gallwch roi eich cyfraniad fel Rhodd Cymorth. Mae hyn yn ein galluogi ni i adhawlio'r dreth ar eich cyfraniad a’i wneud yn werth hyd yn oed mwy heb unrhyw gost i chi. Ticiwch y blwch Rhodd Cymorth pan fyddwch yn gwneud y cyfraniad!
Gwybodaeth bellach
Ewch i wefan Sustrans i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwahanol ffyrdd i roi a ffyrdd eraill y gallwch chwarae eich rhan.

